Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol


Lleoliad:

Hybrid – Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a fideo gynadledda dros Zoom

Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Gorffennaf 2024

Amser: 09.00 - 12.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13974


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Altaf Hussain AS

Mabon ap Gwynfor AS

Mark Drakeford AS

Sam Rowlands AS (Cadeirydd dros dro)

Joyce Watson AS

Tystion:

Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol

Anthony Jordan, Llywodraeth Cymru

Chloe Marong, Llywodraeth Cymru

Gillian Baranski, Arolygiaeth Gofal Cymru

Margaret Rooney, Arolygiaeth Gofal Cymru

Staff y Pwyllgor:

Sarah Beasley (Clerc)

Claire Morris (Ail Glerc)

Lowri Jones (Dirprwy Glerc)

Sian Thomas (Ymchwilydd)

Amy Clifton (Ymchwilydd)

Masudah Ali (Cynghorydd Cyfreithiol)

Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Blaenraglen Waith

1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei raglen waith ar gyfer tymor yr hydref.

</AI1>

<AI2>

2       Adroddiad monitro amseroedd aros y GIG

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y pwyntiau gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad.

</AI2>

<AI3>

3       Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru – Craffu Cyffredinol: trafod yr adroddiad drafft

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, yn amodol ar fân newidiadau.

</AI3>

<AI4>

4       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

4.1 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i'r cyfarfod.

4.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Russell George AS. Roedd Altaf Hussain AS yn bresennol fel dirprwy.

4.3 Datganodd Mabon ap Gwynfor fod ei wraig yn gweithio i elusen yn y sector dan sylw.

 

</AI4>

<AI5>

5       Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

5.2 Cytunodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o'r fframwaith presennol ar gyfer gofal iechyd parhaus.

</AI5>

<AI6>

6       Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru.

</AI6>

<AI7>

7       Papurau i'w nodi

</AI7>

<AI8>

7.1   Ymateb dilynol gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru i Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch yr adroddiad a gyhoeddwyd ar y cyd gan y pwyllgorau yn 2023, sef Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru

7.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb dilynol.

</AI8>

<AI9>

7.2   Ymateb gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

7.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

</AI9>

<AI10>

7.3   Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd ynghylch amserlen cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26

7.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

</AI10>

<AI11>

7.4   Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet ynghylch amserlen cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26

7.4 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

</AI11>

<AI12>

8       Cynnig i benodi Cadeirydd dros dro hyd at y cyfarfod cyntaf yn nhymor yr hydref yn unol â Rheol Sefydlog 17.22

8.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI12>

<AI13>

9       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a'r cyfarfod ar 26 Medi 2024, ar gyfer digwyddiad i randdeiliaid a gaiff ei gynnal fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i feddygaeth deulu; a'r cyfarfod ar 9 Hydref, ar gyfer digwyddiad i randdeiliaid a gaiff ei gynnal fel rhan o Faes o Ddidordeb Ymchwil cyhoeddedig y Pwyllgor ar arloesi ar gyfer gwella mewn gofal iechyd

9.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI13>

<AI14>

10    Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod y dystiolaeth a materion sy'n dod i'r amlwg

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a materion sy’n dod i’r amlwg, i’w cynnwys yn yr adroddiad.

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>